.
.
.
.
.
.
.
.
.Straw-Sculptures-Mouth
By Sang Sik Hong
òmes revoutats,
es a dire
òmes*
Rotland Pécot
Bydd y mud yn torri trwodd y tymor hwn,
Dannedd, rhes o dywysennau gwyn
gan osod baricêd at eiriau hesb
ac yng nghefnfor ewynnog y gwddf
bydd sloganau ac arwyddion
yn cyffroi ‘r suddo
Unwaith y bydd drosodd,
troi’n bibellau dŵr yn sydyn,
dibendod llygaid yn hidlo
dicter o rydweliïau ystwyth.
Bryd hynny’n unig, bydd òmes,
sef y bodau o gig a gwaed
yn codi mewn distawrwydd
gan wneud i’r sofl ddirgrynu.
Y syniad tu ôl i’r gerdd yw mai dim ond pan y gallwn gael gwared o’r dicter y down yn ‘ òmes’- [sef bodau dynol go iawn yn ôl gair Rotland Pecot], gyda’r gallu i godi mewn distawrwydd a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr i godi ‘arfau’. Dyna bwysigrwydd yr ‘ s’ yn ‘silence’ yn Saesneg a’r dewis o ddistawrwydd yn Gymraeg a’i bwylais ar ‘st’. Y distawrwydd penderfynol hwn o wrthryfel—heb sloganau, nac arwyddion a fydd yn rhoi grym gan ennyn parch ac arswydlonedd. Gall hyd yn oed wneud ‘sofl’, bonion y cynhaeaf, grynu.