Gwrthryfel distawrwydd

Sang-Sik-Hong-Straw-Sculptures-Mouth2

    .

.

.

.

.

.

.

.

.Straw-Sculptures-Mouth

By Sang Sik Hong

                                    òmes revoutats,

                                                 es a dire

                                                 òmes*

                                                Rotland Pécot

                                                                    

 Bydd y mud yn torri trwodd y tymor hwn,

Dannedd, rhes o dywysennau gwyn

gan osod baricêd  at eiriau hesb         

ac yng nghefnfor ewynnog y gwddf      

bydd sloganau ac arwyddion

yn cyffroi ‘r suddo                                   

 

Unwaith y bydd  drosodd,

troi’n bibellau dŵr yn sydyn,

dibendod llygaid yn hidlo

dicter o rydweliïau  ystwyth.

 

Bryd hynny’n unig, bydd  òmes,

sef y bodau o gig a gwaed

yn codi mewn distawrwydd

gan wneud i’r sofl ddirgrynu.

Y syniad tu ôl  i’r gerdd yw mai dim ond pan y gallwn gael gwared o’r dicter  y down yn ‘ òmes’- [sef bodau dynol go iawn  yn ôl gair Rotland Pecot],  gyda’r gallu i godi mewn distawrwydd a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr i godi ‘arfau’. Dyna bwysigrwydd yr ‘ s’ yn ‘silence’ yn Saesneg a’r dewis o  ddistawrwydd yn Gymraeg a’i bwylais ar ‘st’. Y distawrwydd penderfynol hwn o wrthryfel—heb sloganau, nac arwyddion a fydd yn  rhoi  grym gan ennyn parch ac arswydlonedd. Gall hyd yn oed wneud ‘sofl’, bonion  y cynhaeaf, grynu.

Translated into Welsh by Menna Elfyn