CYMRAEG CATALÀ ENGLISH FRANÇAIS OCCITAN
_______________________________________________________________________
Un i wneud hwyl am ei phen
Oedd hi unwaith,
Wrth gael ei gweld
Mewn parc gwag —
Hen ddynes grwca heb ei medru hi.
Ond heddi, nid felly y mae;
Eistedd wrth ei hochr a wnaf,
A dysgu iddi eiriau pwysig,
Ei chael i ddweud ar fy ôl:
Coed, O, rhai cadarn ydynt,
Cedyrn y Cymry;
A dwr, sbiwch fel y mae dwr yn treiglo
Y d-d-d yn disgyn, wedi tasgu o bistyll.
Ac yna adar. Dysgaf iddi ddau air —
Trydar ac adar,
Yr adenydd a’r ehedeg;
Ac ni fydd rhai’n gweiddi geiriau cras
Ar ei hôl,
Achos yn ei genau bydd geiriau i’w chynnal.
A byddaf fel ceidwad y parc yn mynd tua thre,
Gan wybod nad yw’n ddigartre,
Ac o bell, clywaf eiriau’n seinio:
Coed cadarn
Cedyrn y Cymry,
Dwr, ac adar,
A bydd ei geiriau’n ddiferion
O bistyll,
Yn codi fel adenydd sy’n ehedeg.
A bydd ei ffon o hyn allan
Yn pigo dail marw o’r parc
A’u troi yn las,
Mor las â thafod hen wraig grwca yn y parc.