__________________________________________________________________________
(wrth feddwl am Sylvia Plath ac Anne Sexton:
“A woman who write feels too much” Anne Sexton)
Nid oedd i einioes
y fam o fardd
binnau diogel,
na’r cyd-ddeall
rhwng poteli baban a pharadwys iaith.
I ti a sawl Sylvia
rhyw nosau salw
oedd ymyrraeth y lleferydd brau ,
a’u lluosog arwahaniaith
wrth eich troi’n ddurturiaid cryg
at wifrau pigog
gwallgofrwydd.
Heddiw, ymdeimlo a fedrech
heb dwmlo droriau angau––
a’i gymhennu’n awen
ddiymddiheuriad.
Cynifer a gân heddiw
heb ddal eu hanadl
rhag i’r peswch annifyr
darfu’r gynulleidfa
a’r gŵr o’i bulpud.
Chwyrlïodd sêr ein hanes
fel sylwon crog
uwch crud bydysawd,
a lleddfu colyn profiad:
iaith ein byw o’r fenyw fyw
ar chwâl yn chwyldro’r gerdd.